Mae ein prif swyddfa a chanolfan brofi wedi’u lleoli yn: Llawr 1af, Canolfan Porth Tredomen, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7EH.
Os ydych yn cwblhau unrhyw brofion neu astudiaethau achos fel rhan o’ch cymhwyster fe’u cynhelir yma.
Mae’r swyddfeydd yn gwbl hygyrch i bob defnyddiwr anabl. Yma fe welwch:
- Parcio am ddim ar y safle gyda mynediad gwastad i’r adeilad
- Mynedfa/allanfa lydan hygyrch
- Lifft mawr i bob llawr
- Toiledau i’r anabl ar bob llawr
- Ystafelloedd mawr heb annibendod ar gyfer eich gweithdy prawf/astudiaeth achos